www.bryntirioncs.bridgend.sch.uk/
Mae Ysgol Gyfun Bryntirion yn falch o fod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i efeillio gyda Maes Heddwch Fflandrys.
13/05/17
Gall mynychu ysgol a adeiladwyd ymhell ar ôl 1918 gwneud i ni deimlo ar wahân o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond eto adeiladwyd ein cymuned fodern ar y sylfeini hanesyddol dwfn yma. Mae gan ein harwyddair ‘Dysgwn sut i fyw’ cyseiniant pwerus yng ghyd-destun y Rhyfel Byd Cyntaf. Credwn dylai addysg mynd y tu hwnt yr ystafell dosbarth er mwyn dysgu gwir heddwch mewn gwrthwynebiad i’r gwrthdaro, rhagfarn a chasineb yr erchyllterau’r Rhyfel.
Gan gydnabod yr effaith a achosodd y Rhyfel Mawr ar ein cymuned, adeiladwyd disgyblion Bryntirion cofeb er mwyn cofio’r 53 dynion, a bu farw yn ymladd am heddwch dros ganrif yn ôl. Rydym yn hynod o falch i gadw etifeddiaeth yr arwyr anghofiedig yma dan faner Bryntirion modern. Mewn cenhedlaeth wahanol byddai’r dynion yma wedi mynychu ein hysgol ni, yn hytrach wynebodd erchyllterau’r rhyfel, ymhell o’u teuluoedd, i farw tramor dros 300 milltir i ffwrdd.
Er hynny, teimlwn gall ddim byd efelychu effaith gweld y lleoliadau yma, wrth gerdded yn olion traed y rhai a bu ymladd yno dros ganrif yn ôl. Ar ymweliad coffa i feysydd brwydrau Ffrainc a Gwlad Belg, ddarperir ein disgyblion gwasanaethau, a gosod torchau ar y safleoedd yma, er mwyn dangos parch i’r nifer o filwyr Gymru a wnaeth yr aberth eithaf.
Ar ôl yr ymweliad ymchwiliodd y disgyblion cyfranogiad eu teuluoedd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd amlwg ymdeimlad o golled bersonol, teimlwyd hyn wrth i ddisgyblion gosod pabi er cof am eu perthnasau oedd mor ifanc â 17. Roedd yr eiliadau teimladwy yma yn marcio’r tro cyntaf i deuluoedd y milwyr teithio i dalu teyrnged ar lan y bedd.
Yn yr astudiaeth o ryfel mae’n eironi hapus bod neges o heddwch dal yn bodoli. Rydym yn ymroddedig i’r prosiect Maes Heddwch, gyda’r gobaith bydd cenedlaethau heddychwyr y dyfodol, a ysbrydolwyd gan y cadoediad y Nadolig, 1914, yn cydnabod sut drawsnewidiodd chwaraeon bywydau pobl i fod yn bobl well.
Bydd y neges yma yn aros yn hir yn gof pawb sy’n oedi i wrando.
This message will remain long in the memories of all who pause to listen.
-Ambassadors Molly Cook, Siona-Lee Hemming and Gwen Williams.